£675,000 (Guide price)
Reference: R23/036
Ty traddodiadol 4/5 ystafell wely gydag elfennau modern, yn sefyll ar ei ben ei hun mewn tair erw o dir ar safle godidog ar yr arfordir, 5 milltir i’r de o Aberystwyth. / A traditional yet modern 4/5 bedroom detached house enjoying an enviable coastal location 5 miles south of Aberystwyth with 3 acres of land.
Tystysgrif Perfformiad Ynni / Energy Efficiency Rating : 71 (C)
Daliadaeth / Tenure : Freehold
Treth Cyngor / Council Tax Band : E
To find out more information about the property, please feel free to download the brochure.
Ty traddodiadol 4/5 ystafell wely gydag elfennau modern, yn sefyll ar ei ben ei hun mewn tair erw o dir ar safle godidog ar yr arfordir, 5 milltir i’r de o Aberystwyth.
A traditional yet modern 4/5 bedroom detached house enjoying an enviable coastal location 5 miles south of Aberystwyth with 3 acres of land.
Argymhellir ymweliad buan er mwyn gwerthfawrogi lleoliad arbennig yr eiddo sydd ond ychydig bellter oddi wrth Llwybr Arfordir Cymru. Mae’r golygfeydd o Lain Wen yn wynebu’r de i gyfeiriad Ceinewydd a thu hwnt yn bennaf. O ben y cae ceir golygfa helaeth o Fae Ceredigion yn ei grynswth. / An early inspection is necessary to appreciate the stunning location which is situated a short distance from the ever popular Coastal Path Wales. The views from Llain Wen are mainly to the south towards New Quay and beyond. From the top of the field there are views over the whole of Cardigan Bay.
Bwthyn bychan oedd Llain Wen yn wreiddiol ond y mae wedi’i ehangu (gan gadw ei gymeriad gwreiddiol) i ddarparu cartref modern ar gyfer teulu, gyda 4/5 ystafell wely, fel y gwelir yn y cynllun ystafelloedd. / Llain Wen was historically a small cottage which has been extended (whilst retaining its original character) to provide family accommodation in 4/5 bedrooms, as highlighted on the floor plan.
Rhydd-ddaliad / Freehold.
Mae’r holl wasanaethau wedi’u cysylltu ac eithrio carthffosiaeth breifat. Darperir gwasanaeth ffeibr band llydan ardderchog i’r adeilad. Gwres canolog olew. / All services are connected except for drainage which is private. The house is served by BT Fibre to the Premises providing exceptional broadband speed. Oil central heating.
Band E.
Trwy apwyntiad yn unig gyda’r asiant: / Strictly by appointment with the sole selling agent:
Aled Ellis & Co, 16 Ffordd y Môr, Aberystwyth
01970 626160 neu sales@aledellis.com
Mae Llain Wen yn cynnig y ddarpariaeth ganlynol. Mae’r holl fesuriadau yn amcangyfrifon. Tynnwyd yr holl ffotograffau gyda chamera digidol lens ongl lydan. / Llain Wen provides the following accommodation. All room dimensions are approximate. All images have been taken with a wide angle lens digital camera.
LLAWR GWAELOD / GROUND FLOOR
CYNTEDD BLAEN GYDA DRWS FFRYNT I’R
/ PORCH WITH FRONT ENTRANCE DOOR TO
Gyda llawr carreg, gwresogydd, mynediad mewnol i’r garej a drysau yn arwain i’r brif lolfa ac i’r / With stone flooring, radiator, internal access to garage and doors leading to main lounge and
CEGIN AC YSTAFELL FWYTA / KITCHEN AND DINING AREA
Cegin fodern yn cynnwys ystod o unedau ar y llawr ac uwchben ac ynys/bar brecwast bach yn y canol. Sinc enamel ddwbl, popty trydan/meicro a phopty Rangemaster gyda hob nwy a chefnfwrdd gwydr gyda dyluniad unigryw. Llawr teils, gwresogydd a goleuadau sbot a goleuadau dan yr unedau. / Comprising a modern fitted kitchen with a range of base and eye-level units with small island/breakfast bar in the centre. Double enamel sink, fitted electric/microwave oven and appliances. A Rangemaster gas cooker with a unique art splashback. Tiled flooring, radiator and spotlights.
Ardal fwyta eang gyda drws allanol gwydr ar un ochr, ffenestr ochr gyda golygfa o’r môr a drysau plygu yn eu holau yn agor allan i’r ardd gefn. Gwres dan y llawr i’w gael yn yr ardal fwyta yn unig. / A spacious dining area with glazed door to side. Window with sea views and bifold doors opening to the rear garden. Underfloor heating in the dining area only.
Gyda chwpwrdd a drysau’n arwain at / With cupboard and doors leading to
YSTAFELL YMOLCHI LLAWR GWAELOD /
Yn cynnwys toiled ac uned cwpwrdd, ciwbicl cawod, bath Jacuzzi, a basn ymolchi wedi ei osod mewn uned gwpwrdd arall. Ffenestr (gwydr barugog), goleuadau sbot, llawr teils, teils hyd hanner y waliau, ffan echdynnu, gwresogydd a rheilen gwresogi tywel. / Comprising a w.c., shower cubicle, panelled Jacuzzi bath, wash hand basin with fitted bathroom furniture and vanity unit. Frosted window to rear, tiled flooring and half tiled walls, extractor fan, heated towel rail and spotlights.
Gyda ffenestri i’r cefn a’r ochr yn cynnig golygfeydd hynod o’r bae i gyfeiriad Ceinewydd. Gwresogydd, llawr teils marmor a drysau dwbwl yn agor allan i’r patio ac i’r ardd gefn. / With windows to rear and fore providing outstanding sea views overlooking New Quay. Radiator, marble flooring and French doors leading to patio and rear garden.
Ffenestr yn wynebu blaen y ty, gwresogydd a silffoedd pren. / Window facing front of house, radiator and fitted shelving.
Ffenestr yn wynebu’r môr gyda chaeadau louvre Sanderson rhag yr haul, gwresogydd a silffoedd pren. / Window facing the sea with Sanderson louvre sunblind shutters, radiator and fitted shelving.
YSTAFELL WELY 1 LLAWR GWAELOD
Ffenestr yn wynebu’r môr gyda chaeadau louvre Sanderson rhag yr haul, gwresogydd a wardrobau mesuredig. / Window facing the sea with Sanderson louvre sunblind shutters, radiator and fitted wardrobes.
Ystafell fyw gyda nodweddion traddodiadol fel trawstiau nenfwd agored, lle tân cerrig gyda stof goed/glo, ardal fwyta, llawr cerrig a dwy ffenestr yn edrych allan i flaen y ty. / A traditional living room with original exposed wooden beams, a stone fireplace with multifuel burner, dining area, stone flooring and two windows to fore.
Y LLAWR CYNTAF
/ FIRST FLOOR ACCOMMODATION
Gyda gwresogydd, ffenestri Velux, silffoedd llyfrau, cwpwrdd helaeth a drysau i / With radiator, Velux windows, large store cupboard and doors to
Yn cynnwys toiled, basn mewn uned ddroriau, ciwbicl gawod mewn cornel gyda theils modern, ffenestr Velux a rheilen gwresogi tywel. / Comprising wc, vanity unit and corner shower cubicle with marble effect tiles, Velux window and heated towel rail.
Gyda ffenestr Velux a gwresogydd. / With Velux window and radiator.
Gyda ffenestr Velux, ffenestr yn wynebu’r môr a gwresogydd. / With Velux window, sea-facing window and radiator.
Gyda ffenestr Velux, ffenestr yn wynebu’r môr a gwresogydd. / With Velux window, sea-facing window and radiator.
Gyda ffenestri Velux yn wynebu dau gyfeiriad, cypyrddau dillad a silffoedd mesuredig, gwresogydd. / With dual aspect Velux windows, built-in wardrobes and shelves, radiator.
Mae’r ffordd hyd at flaen yr eiddo yn perthyn i’r Cyngor Sir ac o flaen y ty ceir gardd flodau, lle i barcio car a mynediad i’r garej. / The property is approached by a council-maintained road leading to the front of the house where there is a flower garden and vehicular hardstanding and access to the garage.
Gydag sinc a lle ar gyfer peiriannau golchi a sychu a rhewgell. / With utility area, appliance spaces and sink.
Yng nghefn yr eiddo ceir llwybrau ac ardal eistedd, gardd lysiau a ffrwythau sylweddol, a lawnt helaeth gyda blodau, llwyni a choed, a golygfa hyfryd o’r arfordir! / To the rear, the property is surrounded by paths and a patio seating area, a large fruit and vegetable garden, and a spacious lawned area with flowers, shrubs and trees – all with a delightful coastal view!
Ceir mynediad i’r cae o’r ardd gefn yn ogystal â thrwy’r gât y tu blaen i’r ty. Mae’r tir sydd ynghlwm wrth Llain Wen yn mesur oddeutu 3 erw. Darperir cyflenwad dwr annibynnol gan fesurydd i’r cae gan Dwr Cymru. / There is access to the land from the rear garden as well as to the fore of the property. The land offered with Llain Wen amounts to approximately 3 acres. A separate Dwr Cymru meter supplies mains water to the field.